Croeso i Lwybr Y Mab, llwybr celf ym Mhontypridd sy’n dilyn storïau’r Mab (The Mab), Noddir y llwybr gan Gyngor Tref Pontypridd, mewn partneriaeth â Gŵyl Lyfrau Plant Pontypridd.
Mae Llwybr Y Mab yn dilyn y storïau a adroddir yn Y Mab, sy’n ail-greu chwedlau Gymreig epig y Mabinogi. Mae’r storïau hyn yn wirioneddol hen. Wir i chi. Mewn gwirionedd, mae yna bobl ddeallus sy’n meddwl efallai mai’r rhain yw’r storïau ysgrifenedig hynaf erioed yn hanes Prydain.
Ysgrifennwyd y storïau am y tro cyntaf yn yr 14eg ganrif, mewn dau lyfr, Llyfr Gwyn Rhydderch and Llyfr Coch Hergest. Mae’r 14eg ganrif mor bell yn ôl y byddai wedi bod yn oes eich hen, hen, hen, hen, hen, hen, hen, hen, hen, hen, hen, hen nain. Ac a dweud y gwir, mae storïau’r Mabinogi yn hyd yn oed hynach na hi, oherwydd y byddent wedi cael eu perfformio a’u rhannu rhwng pobl am flynyddoedd lawer cyn hynny.
Ond, yn ogystal â bod yn wirioneddol hen, mae’r storïau yn Y Mab yn gyffrous a doniol, ac yn llawn o HUD A LLEDRITH. Storïau yw’r rhain am angenfilod, a dewiniaid, marchogion, a chawr a chanddo bair sy’n gallu atgyfodi’r meirw, ynghyd â chwedleuwr sy’n dal lladron, a thîm o arwyr dialgar sy’n marchogaeth pysgodyn anferth.
Mae’r storïau yn Y Mab yn digwydd yn y byd go iawn a’r Annwn (‘Otherworld’), gwlad o hud a chyfaredd. Maent yn sôn am adeg pryd y byddai’r pyrth rhwng y bydoedd hyn yn cael eu cadw ar agor ambell dro, ac weithiau, dim ond weithiau, roedd yn bosib camu rhwng y ddau.
Felly, ewch ar unwaith, cychwynnwch ar eich antur eich hun, a dewch o hyd i’r cerrig stori a fydd yn datgelu arwyr Y Mab. Arwyr sy’n cynnwys menyw a gwnaed o flodau, y gorau (bron) o blith marchogion Arthur, rhywun a enwyd ar ôl twlc mochyn sydd wedi’i eni i gyflawni pethau mawr, a llawer mwy.
Fe fyddwch wrth eich bodd â nhw.
Man cychwyn Llwybr y Mab yw yma, yn Amgueddfa Pontypridd. Ym Mharc Ynysangharad, fe gewch gyfarfod Menywod Y Mab. Ar Gae Fordd Berw, fe ddewch o hyd i Hud a Lledrith y Mab, ac mae Anifeiliaid y Mab yn aros i gael eu canfod ar Gomin Pontypridd.