Yn aml, defnyddir ceirw i ddangos bod y cymeriadau yn y stori ar fin cael antur anhygoel. Yn Peredur, y Bwystfil a Sarff y Crug Galarus a Geraint, Enid a’r Marchog Mawr mae’r storïau’n cychwyn gyda helfa am garw. Defnyddir y ddwy helfa i ddangos pa mor ddiofn a beiddgar y mae Peredur a Geraint. Nid yw’r helfa’n ganolbwynt ar gyfer y naill stori na’r llall, ond fe’i defnyddir fel sbringfwrdd ar gyfer antur.
Ar ddechrau eu tasg gyntaf, mae’r Wyth Anhygoel yn ceisio cymorth gan anifeiliaid i ganfod yr heliwr chwedlonol Mabon ap Modron. Gwyddant fod anifeiliaid yn ddoeth ac yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth ddofn o’r byd, a gofynnant am gyngor gan aderyn du, carw, tylluan, eryr, ac yn olaf, eog anferth.
Bydd adar hefyd yn ymddangos yn Y Mab. Weithiau, bydd cymeriadau’n trawsffurfio’n adar, neu maen nhw’n siarad ag adar, neu’n defnyddio adar i gludo negeseuon.Yn stori Breuddwyd Ryfedd ac Ysblennydd Rhonabwy Methu- cysgu mae Rhonabwy’n defnyddio cigfrain i symboleiddio barusrwydd a hunanoldeb gwael a phwdr. Mae’n defnyddio cri’r gigfran hefyd fel modd o roi arwydd i ddynion y tywysog ddod i arestio’r lladron.