Cynllun Grantiau Bach
Nodiadau Canllawiau Grant Bach
-
Ar gyfer beth y gellir defnyddio Grant Bach?
Gellir defnyddio grant bach, hyd at £200, ar gyfer gwariant bach unigol neu grantiau refeniw anghylchol, er enghraifft, offer a deunyddiau newydd, gwaith strwythurol neu drosi, hyfforddiant staff / gwirfoddolwyr, prosiectau peilot, areithwyr gwadd a threuliau eraill.
Nid yw derbyn grant eleni yn gwarantu y bydd ceisiadau yn y dyfodol yn llwyddiannus.
-
Pwy sy’n gymwys i dderbyn Grant Bach?
Mae’n rhaid i grant ddod â lles i drigolion sy’n byw o fewn ffiniau ardal Cyngor Tref Pontypridd. Mae sefydliadau y rhoddwyd cymorth iddynt yn y gorffennol wedi cynnwys grwpiau ieuenctid, clybiau chwaraeon, grwpiau celfyddydau, cyrff elusennol a chymdeithasau amrywiol eraill a threfnyddion digwyddiadau.
Mae grantiau a roddir gan y Cyngor yn gallu cefnogi cyllid cyffredinol sefydliadau a rhoi cefnogaeth i brosiectau arbennig.
Er enghraifft mae cyllid ar gael i:
- sefydliadau dielw sy’n defnyddio eu holl gyllid gwarged ddim ond ar gyfer eu hamcanion ac nid i unrhyw aelod elwa mewn unrhyw ffordd
- cymdeithasau anghorfforedig
- dim ond ar gyfer cefnogi mentrau sy’n rhoi cymorth ar gyfer amcanion elusennol neu lesiannol neu’r rhai sy’n gwneud gwaith da ar gyfer eraill yn y gymuned. Gall hyn gynnwys lleihau tlodi neu salwch, cwrdd â gofynion yr ifanc neu’r henoed, hybu addysg neu’n dod a budd i’r gymuned
- cynorthwyo sefydliadau cymunedol
-
Pwy sy’n anghymwys i dderbyn Grant Bach?
Ni fydd grantiau yn cael eu rhoi i:
- gwasanaethau statudol
- sefydliadau sydd â chronfeydd sylweddol wrth gefn nad ydynt wedi’u dynodi at ddiben penodol
- sefydliadau sydd wedi derbyn grant o’r Cynllun hwn y flwyddyn cyn hynny, ond heb anfon adroddiad ar sut y gwariwyd yr arian
- sefydliadau nad ydynt yn gweithredu, neu ddim yn amlwg yn dod â budd i rai neu holl drigolion ardal y Cyngor
- digwyddiadau cymdeithasol unwaith ac am byth a threuliau teithio
- unigolion, sefydliadau preifat neu ar gyfer elw
- tir / eiddo ‘’sydd ym mherchenogaeth/ ei rentu / ei drwyddedu’’ gan y Cyngor
- cynlluniau sy’n gymwys i dderbyn cymorth ariannol o ffynonellau statudol eraill.
-
Wrth ystyried eich cais:
Byddwn yn edrych ar:
- pa mor dda fydd y grant yn cwrdd ag anghenion y gymuned, a sut un union y bydd pobl sy’n byw yn ardal Cyngor Tref Pontypridd yn elwa. (Nodwch os yn bosib pa mor eang y bydd y daioni yn gwneud lles yn y gymuned).
- pa mor effeithlon y bydd eich grŵp yn defnyddio’r grant
- os yw’r costau’n realistig a phriodol
- lefel o’r cyfraniadau a godir yn lleol
- fyddai’r ymgeisydd, o fewn rheswm wedi gallu derbyn cyllid digonol o ffynhonnell fwy pwrpasol gan gynnwys grant neu gymorth ariannol sydd ar gael o dan ddeddfwriaethau eraill
- sut mae’r grŵp yn cael ei reoli
-
Sut y gellir cyflwyno cais i’r Cynllun Grantiau Bach?
Gellir cyflwyno cais i’r Cynllun Grantiau Bach drwy lenwi’r ffurflen berthnasol sydd ar gael o Gyngor Tref Pontypridd o’r cyfeiriad isod. Gellir llenwi’r ffurflenni yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Dyrennir grantiau gwerth hyd at £200. Mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i ofyn am symiau o fewn yr ystod hon. Ni fydd Cyngor Tref Pontypridd yn edrych ar geisiadau i godi arian ychwanegol o gyfansymiau gweddol fychan - felly gofynnwch am y swm yr ydych wirioneddol ei angen.
Mae ffurflenni cais am grant bach neu gymorth i lenwi’r cais ar gael o:
Cyngor Tref Pontypridd, 133 Berw Road, Pontypridd, CF37 2AA.
Rhif ffôn: 01443 490740
E-bost: info@pontypriddtowncouncil.gov.uk
Bydd Cyngor Tref Pontypridd yn defnyddio’r data a dderbyniwyd gan ymgeiswyr ddim ond mewn perthynas â’r cynllun hwn ac fe’i cedwir am gyfnod o un flwyddyn yn unig ar gyfer diben sy’n ymwneud â’r cynllun hwn.