Roedd Desmond Paul yn wreiddiol o Sri Lanka, lle bu'n gweithio fel Awyr-lefftenant i Awyrlu Sri Lanka. Ei swydd olaf, cyn iddo ymfudo i'r Deyrnas Unedig, oedd y Prif Swyddog â gofal adran weithredol yr Awyrlu yn Koggala, Sri Lanka.
Wedi iddo gyrraedd Llundain, bu’n gweithio fel prif swyddog diogelwch i’r British Airways, cyn ymgartrefu ym Mhontypridd, lle bu’n berchen ar ei fusnes ei hun am dros 30 mlynedd, fel perchennog Desmond’s Newsagents yn Nhrefforest, Pontypridd.
Priododd Desmond ei wraig hyfryd 32 mlynedd yn ôl mewn seremoni eglwysig ym Mhontypridd. Mae ganddo ddau o blant, mab a merch y ddau wedi eu geni a'u magu ym Mhontypridd. Maen nhw wedi graddio o Brifysgol Caerdydd ac wedi ymgartrefu yng Nghymru ar ôl priodi partneriaid Cymreig.
Gŵr cydwybodol a gweithgar yw Desmond, sy’n Gristion ymroddedig. Mae hefyd yn Lywodraethwr ar gorff llywodraethu Ysgol Gatholig Rufeinig San Mihangel ym Mhontypridd.
Diddordebau Desmond yw gwylio chwaraeon a ffilmiau. Mae'n ddiddanwr da ac yn weithiwr elusennol
Plaid : Llafur
Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30yb - 4.30yh
Dydd Sadwrn a Dydd Sul
Ar gau
Cyngor Tref Pontypridd | Cedwir Pob Hawl